Geiriau/Lyrics

Hey Mistar Urdd!

Hey Mistar Urdd yn dy goch, gwyn a gwyrdd,

Mae hwyl i gael ym mhobman yn dy gwmni,

Hey Mistar Urdd tyrd am dro ar draws y ffyrdd,

Cawn ganu'n gan i holl ieuenctid Cymru.

Dewch i Weld y Baban Iesu

Dewch i weld y baban Iesu

Ffa la la la la, la la la laa

Mair a Joseff yno'n gwenu

Ffa la la la la, la la la laa

(x2)

Daw'r bugeiliaid gyda'u defaid

Ffa la la la la, la la la laa

Doethion hefyd, mawr eu llygaid

Ffa la la la la, la la la laa

(x2)

Canwn iddo Bore 'Dolig

Ffa la la la la, la la la laa

Baban Iesu, Bendigedig

Ffa la la la la, la la la laa

(x2)

Pwy sy'n dod i lawr y bryn?

Pwy sy'n dod i lawr y bryn

Pwy sy'n dod i lawr y bryn

Sawl bugeiliaid o mor syn

Sydd yn dod i lawr y bryn

Oo, oo, oo, oo, ooo, oo

Sawl Bugeiliaid

Pwy sy'n plygu wrth y crud

Pwy sy'n plygu wrth y crud

Tri gwr doeth, o mor hud

Sydd yn plygu wrth y crud

Oo, oo, oo, oo, ooo, oo

Tri Gwr Doeth

Pwy sy'n cysgu yn y gwair

Pwy sy'n cysgu yn y gwair

Baban Sanctaidd, baban Mair

sydd yn cysgu yn y gwair

Oo, oo, oo, oo, ooo, oo

Baban Iesu

Menu